Marcus Antonius Primus
Marcus Antonius Primus | |
---|---|
Ganwyd | c. 23 Toulouse |
Bu farw | c. 98 Toulouse |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | seneddwr Rhufeinig |
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Antonius Primus (30 – wedi 81). Bu ganddo ran allweddol yn nigwyddiadau Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr yn 69.
Ganed ef yn Tolosa, a daeth yn aelod o Senedd Rhufain yn ystod teyrnasiad Nero, ond taflwyd ef o'r senedd a'i alltudio o Rufain yn 61. Dan yr ymerawdwr Galba, daeth yn aelod o'r senedd eto, a phenodwyd ef yn legad Legio VII Galbiana yn Pannonia.
Wedi marwolaeth Otho, perswadiodd ei leng a llengoedd eraill Pannonia i gefnodi Vespasian, oedd yn hawlio'r orsedd. Aeth a byddin i'r Eidal, lle gorchfygodd fyddin yr ymerawdwr Vitellius yn Ail Frwydr Bedriacum ar 24 - 25 Hydref. Aeth ymlaen i feddiannu dinas Rhufain.
Am gyfnod, hyd nes i fyddin arall Vespasian dan Gaius Licinius Mucianus gyrraedd, ef oedd yn rheoli Rhufain, a phenododd y senedd ef yn Gonswl.